Who We Are
Pwy Ydym Ni
Membership
Aelodaeth
Constitution
Cyfansoddiad
Excursions
Gwibdeithiau
Meetings
Cyfarfodydd
Transactions
Trafodion
Publications
Cyhoeddiadau
Committees
Pwyllgorau

Day School
Ysgol Undydd

Resources
Adnoddau


Aelodaeth o'r Gymdeithas


Os ydych chi'n gwerthfawrogi trftadaeth, traddodiadau a hanes bywyd gwyllt Ynys Môn, cewch gyfle i gyfarfod pobl efo'r un diddordebau wrth ymuno efo Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, gan efallai ehangu a gwyntyllu eich profiadau.

Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1911, gydag aelodaeth oddeutu 1,000 erbyn heddiw, led led y byd (Rhid Elusen : 507837).

Mae'r gweithgareddau yn cynnwys tair darlith y flwyddyn, dau gyfarfod cymdeithasol a rhaglen o ymweliadau yn yr Haf. Cynhelir y cyfarfodydd fel arfer yn Oriel Ynys Môn, Llangefni.

Oherwydd ei henw da, llwydda'r Gymdeithas i ddenu siaradwyr o safon academaidd i drafod testunau archaeolegol, hanesyddol, cymdeithasol a bywyd gwyllt, yn Gymraeg a Saesneg. Cynllunir y rhain i apelio at bawb, yr ysgolhaig a'r amatur.

Ers 1966, cyhoeddodd y Gymdeithas nifer o gyfrolau yn ei chyfres "Studies in Anglesey History", yn delio efo nifer amrywiol o agweddau ar hanes yr Ynys. Gellir prynu'r rhain naill ai drwy'r siopau neu Swyddog Cyhoeddiadau'r Gymdeithas, ond fe gynigir y llyfrau i aelodau am bris gostyngol cyn eu cyhoeddi.

Derbynia aelodau gopi o Drafodion y Gymdeithas yn flynyddol, a dau gychlythyr, un yn y Gwanwyn a'r llall yn yr Hydref.

Fe gewch CHI hyn i gyd am danysgrifiad blynyddol rhesymol iawn.

Tanysgrifiadau
Aelodau Unigol  £6.00   
Aelodau ar y cyd, yn byw yn yr un cyfeiriad  £9.00 (Un copi o'r Trafodion)
Sefydliadau £10.00

Danfonir un copi yn rhad ac am ddim at aelodau ym Mis Hydref.

Os ddymunir ymaelodi argraffwch y
ffuflen gais am aelodaeth ffuflen gais am aelodaeth a ddanfonwch o ymlaen i'r Ysgrifennydd Aelodaeth Mygedol,  Mr. Siôn Caffell, 1 Fronheulog, Sling, Tregarth, Bangor, Gwynedd LL57 4RD, (  01248 600 083.