|
| |
Rhaglen Gwibdeithiau 1999 Aelodau
yn unig
Dydd Mercher, 12 Mai, 1999 - GWIBDAITH DIWRNOD LLAWN
Diwrnod Ym Meirionnydd |
|
Cost £20, am ddiwrnod 'moethus'
sy'n cynnwys pris y bws, coffi yn y bore, sgwrs ddarluniadol
ar Eryri a chino ysgafn i ddilyn - hyn oll ym Mhlas Tan y Bwch,
Maentwrog - ac ymweliad brynhawn i Lasynys, cartref Elis Wyn.
Yna, cawn cinio gyda'r nos cynnar ngwesty St. David's yn Harlech.
UN BWS O GAERGYBI YN UNIG A REDIR YMLAEN O BORTHAETHWY, GYDA
BWS BACH O GYFEIRIAD AMLWCH I GYSYLLTU A'R BWS YM MHORTHAETHWY
(COED CYRNOL)
Anfonwch eich ceisiadau yn fuan
i Mrs Margaret Hughes, Penymaes, 1 Bryntirion, Llanfairpwll LL61
5YP (Ffôn 01248 712084). |
|
Dydd Sadwrn, 12 Mehefin, 1999 - GWIBDAITH DIWRNOD LLAWN
Cerdded: Sarn Helen i Goed y Brenin |
|
Cawn ein harwain gan Frances Llewellyn, gyda
Peter Crew (Parc Cenedlaethol Eryri) i gylch Coed y Brenin eleni
i weld peth o archaeoleg amrywiol y rhan yma o'r Eryri.
Pum milltir yw pellder y cerdded, y rhan fwyaf
ar i lawr ar ôl ychydig o ddringo hawdd ar ddechrau'r daith
(CM 734312) i gyrraedd Sarn Helen. Diwedd y daith fydd y ganolfan
ymwelwyr, Coed y Brenin (CM 716277). Ar ein ffordd cawn weld
adfeilion hen faes ymarfer yn dyddio o Ryfel y Boer, odynau priddlechi
Rhufeinig, Sarn Helen, carreg Llechi Idris a mynment gynnar Gristnogol.
Yn y goedwig gwelir cylch cytiau o'r oes Rufeinig, datgloddiad
diweddar hen ffwrnais flast o'r oesodd canol ac olion eraill
o'r gorffennol.
Gan fod y tir anesmwyth mewn mannu, mae'n
angenrhediol i wisgo esgidiau cryfion, a dillad i wrthsefyll
gwynt a glaw yn ôl tywydd ar y diwrnod. Dewch a bwyd ysgafn
ar gyfer yr egwyl o 40 munud ganol dydd. Ceir ysbienddrych yn
ddefnyddiol ar y tir uchel! Codir aelodau ar y bws yn y bore
yn Llangefni (Llyfrgell, 8.30), Llanfairpwll (Swyddfa Bost, 8.50)
a Phorthaethwy (Coed Cyrnol, 9.00)
Rhaid cyfyngu'r nifer i 50 o deithwyr fel
o'r blaen, a'r gost fydd £16.00 y pen, gan gynnwys pryd
o fywyd deugwrs ar ddiwedd y dath yng Ngwesty'r Sior III, Penmaenpool.
Trefnwyr:
Frances LLewllyn a Gwynne Morris Jones (Ffôn 01407 832861) |
|
Dydd Sadwrn, 17 Gorffennaf, 1999 - GWIBDAITH
HANNER DIWRNOD
Porth Amlwch |
|
Fe'n harweinir ar daith gerdded o gwmpas yr
hen borthladd gan ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Diwydiannol Amlwch,
Mr Bryan Hope. Mae'r hanes ddiddorol, a gwelir hyd heddiw hen
adfeilion y diwydiannau copr a saernïaeth llongau a ffynnent
yno unwaith.
Man cyfarfod - yn y maes parcio ar tir uchel
ar ochr ddwyreiniol y porthladd, nid wrth yr harbwr, am
2 o'r gloch. Mae'r maes ychydig tu hwnt i hen adeilad Shell (CM
452936), a chodir yr arwyddion A.A.S. fel arfer i ddangos y ffordd
o'r sgwar ger y porthladd. Cofiwch ddod a dillad gwrth-ddwr os
bydd glaw yn debygol!
Trefnwyr:
Gwynne Morris Jones (Ffôn 01407 832861) a Bryan Hope |
|
Dydd Mercher, 1 Medi, 1999 - GWIBDAITH
DIWRNOD LLAWN
"Yr hen Sir Fflint" |
|
Bydd dwy goets yn pigo i fyny
fel arfer ar draws yr ynys cyn ymuno ym Mhorthaethwy i fynd a
ni i ran o'r wlad 'roeddym yn adnabod, cyn 1974, fel Sir Fflint.
Ar ôl paned a bisged yn y Faenol Fawr, Bodelwyddan mi awn
i weld Eglwys Santes Bridget, Dyserth cyn mynd ymlaen i Barc
Etifeddiaeth Dyffryn Maesglas, Treffynon. Bydd amser yno i gael
picnic ag i weld peth o'r gwaith cadwrol, yn enwedig y rhannau
gyda cysylltiad a Mynydd Parys, ag i gael golwg ar Abaty Dinas
Basing. Wedyn, ar ôl galw i weld gweddillion castell y
Fflint, mi awn ar ffyrdd gwledig i Barc Kinmel, neuadd o'r ddeunawfed
ganrif gyda cysylltiad a Mynydd Parys. I orffen y dydd mi awn
i Westy y Ty Gwyn, Rhuallt i dorri chwant a syched cyn trafaelio
adref. Bydd Mr Vernon Hughes RIBA, cyn bensaer gyda Cadw, yn
ymuno â ni yn Abergele ac yn aros gyda ni drwy'r dydd ag
mi gawn fanteisio ar ei brofiad tra bydd yn rhoi dipyn o hanes
safleoedd y byddom yn ymweld.
Trefnwyr: Dewi O Jones (Ffôn
01248 712566) a Gareth Parry (Ffôn 01248 722697) |
|
Dydd Mercher, 15 Medi, 1999 - GWIBDAITH
HANNER DIWRNOD
Eglwys Sant Rhwydrys, Llanrhwydrys a Gardd Cestyll, Cemlyn |
|
Mae eglwys presennol Sant Rhwydrys
yn perthyn i'r 12 fed ganrif. Cyfarfod am 2.00 o'r gloch yn yr
eglwys gyda chaniated caredig awdurdodau'r eglwys. Dilynwch y
ffordd A5025 un ai o Fali neu Cemaes. O gyferied Fali cymerwch
yr ail droad i'r chwith ar ôl mynd hebio Bwyty Pandy, tua
dwy filltir ar ôl mynd trwy pentref Llanrhuddlad. O gyferied
Cemaes cymerwch y troad i'r dde ym mhentref Tregele. Mae arwyddion
yn dangos "Cemlyn" ar y ddau droad ac fe osodir arwyddion
ychwanwgol gan y Gymdeithas yr Hynafiaethwyr. Mae'r eglwys tua
dwy filltir o'r troadau ar hyd ffordd gul. Dilynwch arwyddion
y Gymdeithas!
Ar ôl sgwrs yn yr eglwys
fe awn i weld Gardd Cestyll, gyda chaniatad caredig Mr. Stuart
Price, Rheolwr Gorsaf Wylfa, Trydan Magnox. Creigfa yw'r ardd
yn bennaf, yn cynnwys amrywiaeth mawr o blanhigion anghyffredin
ac fe'i rhennir gan ffrydiau a phontydd. Rhoddir cyfarwyddyd
i gyrraedd Cestyll cyn cychwyn o'r eglwys.
Trefnyddion: J.C. Davies (Ffôn.
01407 762914) a John Rowlands. |
|
|