Who We Are
Pwy Ydym Ni
Membership
Aelodaeth
Constitution
Cyfansoddiad
Excursions
Gwibdeithiau
Meetings
Cyfarfodydd
Transactions
Trafodion
Publications
Cyhoeddiadau
Committees
Pwyllgorau

Day School
Ysgol Undydd

Resources
Adnoddau


Rhaglen Gwibdeithiau 2004 

Rhoddir blaenoriaeth i aelodau. Codir ffi o £2.00 ar rai nad ydynt yn aelodau pan yn mynychu achlysuron sydd am ddim i aelodau, a thalu yr un faint ag aelodau ar wibdeithiau taladwy.

Nos Iau, 27 Mai 2004 am 6.30 o’r gloch - Gwibdaith gyda’r nos
Datblygiadau diweddar yng Nghaergybi

Mae Caergybi wedi newid tipyn ers ein ymweliad yn 1997.  Drwy garedigrwydd y Rheithor byddwn yn cyfarfod yn Eglwys St Cybi. Yno fe fydd Dr Ken Roberts yn  siarad am ei ymchwiliadau diweddar a rhai o’r newidiadau cysylltiedig a datblygiad y porthladd a’r A55. Os bydd y tywydd yn addas bydd cyfle i gael golwg ar rai ohonynt

Trefnwyr: Dr. Ken Roberts a Gareth Parry (01248 722697)

Dydd Sadwrn 5 Mehefin 2004 – Gwibdaith Diwrnod Llawn
Ardal Ffestiniog - Bryn Castell a Tramffordd Rhiwbach

Dileuwyd y Gwibdaeth oherwydd prynder cefnogaeth

Trefnwyr: Mrs Frances Llewelyn a Gareth Parry (01248 722697)

Dydd Sadwrn  26 Mehefin 2004 - Gwibdaith hanner diwrnod.
Brynddu ac Eglwys Llanfechell

Byddwn yn cyfarfod yn Brynddu lle mae y Prifathro a Mrs Grove White am ein croesawu i ymweld ai cartref. Bydd y Prifathro a’r Parchedig Emlyn Richards yn siarad am hanes y tŷ, rhan o gynnwys yr adeilad a’r cysylltiad rhyngddo a William Bulkeley, y dyddiadurwr. Bydd y gerddi hefyd ar agor. Bydd paned ar gael am bris o 50c. Wedyn awn i eglwys y pentref lle bydd y Rheithor, y Canon Geraint Edwards, yn siarad am ei hanes a datblygiadau diweddar.

Mae arwyddion i Llanfechell wrth cylchdro Cemaes ar y A5025 ac wrth y “Sportsman”, rhyw hanner milltir heibio Rhosgoch ar y ffordd o Amlwch. Mae Brynddu oddi ar ffordd fechan rhyw chwarter milltir i’r De o Llanfechell. Bydd lle i barcio mewn cae ar gael, edrychwch am yr arwyddion “AAS”. Bydd gwybodaeth am sut i fynd o Brynddu i’r eglwys ar gael ar y dydd.

ER MWYN SICRHAU MYNEDIAD A LLUNIAETH GADEWCH I’R TREFNWR WYBOD EICH BWRIAD I YMUNO Â’R DAITH ERBYN DYDD MERCHER, 23 MEHEFIN, OS GWELWCH YN DDA. HEFYD, NODWCH YR AMSER CYFARFOD CYNHARACH NAG ARFER.

Trefnwyr: John Rowlands a Gareth Parry  (01248 722697)

Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2004 – Gwibdaith Diwrnod Llawn
Rhelffordd Eryri a Beddgelert

Cyfyngir y wibdaith i 50 person. Bydd un goets yn cychwyn o Gaergybi ag yn pigo i fyny yn y lleoedd arferol ar ei ffordd i Borthaethwy – trefnir “bws bach” o Amlwch os bydd digon o ofyniad. Gadewn Porthaethwy mewn amser i alw am baned boreol yng Ngwesty Parc Eryri, Waunfawr cyn mynd ar drên Rheilffordd Eryri i Rhyd Ddu. Wedyn bydd y goets yn ein cludo i Feddgelert. Yno byddom yn ymweld â Eglwys y Santes Fair sydd wedi ei ail-ardduno yn ddiweddar a chawn glywed am y gwaith eciwmenaidd yno. Bydd amser i gael picnic ger yr afon neu byr bryd yn y pentref cyn ymuno â’r goets i fynd i Craflwyn. Dyma lle mae yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn datblygu “ystad fechan Victoriaidd” fel canolfan addysg a llety. Cawn weld peth o’r gwaith adnewyddu yn yr adeiladau a’r gerddi a chlywed am ddychweliad ffermio traddodiadol i Nant Gwynant.  Cynghorir esgidiau addas i gerdded yn y gerddi. Gorffenwn y dydd gyda pryd o fwyd yng Ngwesty yr Heliwr Brenhinol ym Mhorthmadog cyn cyrraedd yn ôl ym Mhorthaethwy tua 7.45 o’r gloch.

Y gost fydd £26.00 y person.    NODER: Bydd CYNLLUN SEDDAU mewn grym ar y goets, bydd seddau yn cael ei rhannu fel y daw archebion i law.

Trefnwr: Gareth Parry (
Dydd Gwener - Dydd Sul, 3 -  5 Medi, 2004 -  GWIBDAITH PENWYTHNOS
Llangollen, Ironbridge a Amwythig

Dileuwyd y Gwibdaeth oherwydd prynder cefnogaeth

Trefnwyr:  Bob a Mary Mason. (01407 730604)