|
| |
Rhaglen Gwibdeithiau
2003
Rhoddir
blaenoriaeth i aelodau. Codir ffi o £2.00 ar rai nad ydynt yn aelodau pan
yn mynychu achlysuron sydd am ddim i aelodau, a thalu yr un faint ag
aelodau ar wibdeithiau taladwy.
Nos
Iau, 22 Mai 2003 am 6.30 o’r gloch - Gwibdaith
gyda’r nos
Llwybyr Etifeddiaeth Mynydd Parys
Cyfarfod yn y
maes parcio ar y mynydd sydd wedi ei arwyddo ar y ffordd B5111. Bydd aelodau
o Ffrindiau Ymddiriedolaeth Diwydianol Amlwch yn disgwyl er mwyn ein tywys,
mewn grwpiau o ryw 20 ain, ar hyd y llwybyr. Bydd y daith y cymeryd tua 1½
awr ar lwybrau da, er hynny mae esgidiau gweddus yn cael ei cymeradwyo. Ar
ôl y wibdaith i Borth Amlwch yn 1999 bydd y noswaith hon yn gyfle i weld
cynnydd gwaith yr Ymddiriedolaeth.
Er
mwyn sicrhau digon o arweinwyr byddwch gystal, os gwelwch yn dda, a gadael y
trefnwr wybod eich bwriad i ymuno ar y daith cyn
Dydd
Llun, 19 Mai.
Trefnwr:
Gareth Parry (01248 722697) |
|
Dydd
Sadwrn 7 Mehefin 2003 – Gwibdaith Diwrnod Llawn
Eglwys Pistyll, Tre’r Ceiri a Nant Gwrtheyrn
Hon fydd ein
trydydd ymweliad diweddar i Benllyn - ardal sydd yn llawn o safleoedd
hanesyddol. Cychwynwn yn Eglwys Pistyll, hen eglwys fach wledig oddi ar y
ffordd B4417. Bydd hanesydd lleol yno i ddweud dipyn am hanes yr eglwys
a’r ardal. Cerddwn wedyn o gwmpas tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
cyfagos i weld gweddillion safleoedd hanesyddol a cael golygfeydd gwych
o’r arfordir. Wedi cael picnic bydd y goets yn ein cludo i ddechreuad
llwybyr arall i gerdded ar draws gwlad agored ag i fynny i hen gaer Tre’r
Ceiri ble mae CADW wedi bod yn gwneud dipyn o atgyweirio. Wedi i ni ddisgyn
o’r gaer bydd y goets yn ein cludo i Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn i
ymweld a’r Ganolfan Ymwelwyr newydd a chael pryd yn “Caffi Meinir”,
bwyty y ganolfan.
Mae rhan
gyntaf y daith ar draws caeau, sydd dipyn yn wlyb o dro i dro, gyda tipyn o
allt mewn dau le. Mae’r llwybyr i Tre’r Ceiri yn fwy sylweddol, y rhan
diwethaf braidd yn serth. Byddwn yn cerdded am ryw 5½ awr
. Argymhellwng
gwisgo esgidiau cerdded cryfion a dillad addas i’r tywydd ac hefyd –
peth pwysig iawn - picnic ar gyfer seibiant canol dydd.
Bydd y goets
yn pigo i fynny wrth Llyfrgell Llangefni; Swyddfa Post, Llanfairpwll a Coed
Cyrnol, Porthaethwy. Ar ôl pryd yn "Caffi Meinir” dylem fod yn ol yn
Llangefni erbyn 8.30 gyda'r nos.
Y gost fydd
£20 y person.
Fel arfer rhaid cyfyngu'r nifer i 50 - y cyntaf i'r felin ....
Trefnwyr:
Mrs Frances Llewelyn a Gareth Parry (01248 722697) |
Dydd
Mercher
23 Gorffenaf 2003 - Gwibdaith diwrnod llawn
Y Faenol a Llanberis
Cyfyngir y
wibdaith i 50 person. Bydd un goets yn cychwyn o Gaergybi ag yn pigo i fynny
yn y lleoedd arferol cyn cyfarfod a “bws bach” o Amlwch ym Mhorthaethwy.
Bydd y goets yn gadael Porthaethwy mewn pryd i gyrraedd Y Faenol er mwyn
cychwyn ar daith am 10 o’r gloch. O dan arweiniad awn i weld y plasdai hen
a newydd, y cofadail, yr hen
eglwys a rhan o’r gerddi. Cynghorir
esgidiau addas. Cawn weld hefyd rhan o’r gwaith cadwraeth a gyflawnyd
a’r adrannau addysgu newydd. Bydd paned a bisgeden iw cael cyn gadael i
drafeilio i Llanberis. Yn y “Mynydd Gwefru” cawn weld gweddillion y
cychod o’r 12ed a’r 16ed ganrif a godwyd o waelod Llyn Peris. Cewch
brynu byrbryd yn y bwyty yma neu cael picnic wrth y llyn. Awn wedyn i’r
Amgueddfa Llechi am daith arweiniol fydd yn cynnwys yr olwyn dwr 50
troedfedd, y
gweithdai a’r tai chwarelwyr a adnewyddwyd. (Os bydd y tywydd a’r
amser yn caniatau EFALLAI bydd bosib cael hwyliad byr ar Llyn
Padarn). Bydd y dydd yn gorffen gyda pryd o fwyd yng Ngwesty Tyn y
Coed, Capel Curig a dylem fod yn ôl ym Mhorthaethwy tua 7.45 o’r
gloch.
Y gost fydd
£22.50 y person.
NODER: Bydd
CYNLLYN SEDDAU mewn grym ar y goets, bydd seddau yn cael ei rhannu fel y daw
archebion i law
Trefnwyr:
Dr a Mrs I Griffith - Archebion i Mr a Mrs G.J. Mullen (10248 724472) |
|
Dydd Sadwrn 6
Medi 2003 am 2 o’r gloch - Gwibdaith hanner diwrnod
Ardal Llanddeusant
Ein arweinydd
am y prynhawn fydd y Parch Edgar Jones sydd yn gwydod am hanes eglwysi yr
ardal yn dda iawn. Cawn ei gyfarfod yn Eglwys Llanfigael (SH328828) am ddau
o’r gloch ac wedyn, ar ol dweud hanes yr eglwys hon, bydd yn ein tywys i
Eglwys Llanbabo (SH378868) lle y bydd yn siarad am ei hanes hi. Awn wedyn i
Felin Llynnon a bydd yno siawns am daith drwy’r felin a bydd lluniaeth ar
gael am daliad.
Mae arwydd i
Llanfigael ar y ffordd B5109 tua ½ milltir o Bodedern, 1½ milltir
Llangynghenedl. Mae digon o le i barcio yno. Cydymdeithiwn (yn daclus, wrth
gwrs) i’r ddwy safle arall. Bydd lle parcio wedi ei drefnu yn ffarm Llwyn
yr Arth, rhyw 100 llath cyn cyrraedd Llanbabo – edrychwch allan am
arwyddion “AAS”
Os
ydych am de prynhawn yn Llynnon byddwch mor garedig a dychwelyd y rhan
briodol o’r ffurflen gais i’r trefnwyr erbyn 29 Awst
Trefnwyr:
Bob a Mary Mason. (01407 730604) |
|