|
| |
Rhaglen Gwibdeithiau 2002
Rhoddir
blaenoriaeth i aelodau. Codir ffi o £2.00 ar rai nad ydynt yn aelodau pan
yn mynychu achlysuron sydd am ddim i aelodau, a thalu yr un faint ag
aelodau ar wibdeithiau taladwy.
|
Dydd Iau, 16 Mai, 2002 am 6.30 o'r gloch - Gwibdaith Gyda'r Nos
"Hafoty" ger Llansadwrn
Adeiladwyd
y ty canoloesol hwn yn wreiddiol gyda ffram goed ond, yn ddiweddarach, wedi
ei gau i mewn gan furiau cerrig. Mae yn adeilad unigryw yng Ngogledd Cymru.
Dros y ddwy flynedd diwethaf mae CADW wedi goruchwylio atgyweiriad gofalus
gan grefftwyr. Dadorchyddwyd lawer o hanes y safle yn y broses. Mae Dr Mike
Yates, Arolygwr Cofgolofnau Hynafol CADW, wedi cytuno'n garedig i'n tywys o
amgylch y safle.
Mae
"Hafoty" wedi ei leoli ar Gyfeiriad Map 563782. Troi am Llanddona
oddi ar lôn Pentraeth i Biwmares (B5109). Mae'r gyffordd rhyw 3 milltir o'r
ddau a bydd arwydd 'AAS' yno. Bydd arwyddion AAS eraill mewn rhyw filltir i
lawr y ffordd i ddangos lle i barcio.
Trefnwyr:
Gwynne Morris Jones (01407 832861) ac Andrew Davidson. |
|
Dydd Sadwrn, 8 Mehefin, 2002 - Gwibdaith Diwrnod Llawn
Coedwig Gwydyr - Mwyngloddiau, Capel a Castell
Teulu’r
Wynniaid oedd yn gyfrifol am yr uchod a threiliwn y dydd yn dilyn llwybyr
a ddatgelir ehangder eu dylanwad ar yr ardal.
Bwriedwn
ymweld â phedwar mwynglawdd - pob un yn wahanol ac mewn cyflwr adfeilus
amrywiol. Bydd medrusrwydd peirianwyr y cyfnod yn amlwg fel y teithiwn o
safle i safle ac hefyd cyndynrwydd y planhigion anghyffredin sydd yn gallu
dygymod a'r pridd gwenwynig o gwmpas. Ar y ffordd i lawr i Ddyffryn Conwy
ymwelwn a Chapel Gwydyr Uchaf. Dechreuwyd hwn yn 1673 ac mae yno nenfwd
syfrdanol wedi ei baentio yn y dyll 'baroque'. Mae’r “llwybyr” yn
gorffen yng nghartref y Wynniaid, Castell Gwydyr.
Rhyw 5 milltir
ar hyd ffyrdd gweddol hawdd, ag eithro elfen raddol o ddringo o Ty Hyll, yw
hyd y daith. Er hynny awgrymir gwisgo esgidiau cerdded cryfion ynghyd a
dillad addas i'r tywydd a hefyd - peth pwysig iawn - picnic ar gyfer
seibiant canol dydd.
Bydd y bws yn
pigo i fyny wrth Llyfrgell Llangefni, Swyddfa Bost, Llanfairpwll a Coed
Cyrnol, Porthaethwy. Ar ôl pryd yn "Amser Da", Llanrwst dylem fod
yn ôl yn Llangefni erbyn 8.30 gyda'r nos.
Y gost fydd £20
y person, yn cynnwys mynediad i’r castell.
Fel arfer
rhaid cyfyngu'r nifer i 50 - y cyntaf i'r felin ....
Trefnwyr:
Frances Llewelyn a Gwynne Morris Jones (01407 832861) |
|
Dydd Sadwrn, 6 Gorffennaf, 2002 am 2.00 o'r gloch - GWIBDAITH HANNER DIWRNOD
Ardal Ynys Lawd, Caergybi
Cyfarfod ym maes parcio y CBeAA (Cyfeiriad Map SH212829) sydd hanner ffordd i fyny'r allt i Ynys Lawd. Fe fydd y wibdaith mewn dwy ran.
Bydd Mr Nigel Brown, Curadur Gerddi Llysieuol Treborth, yn arwain y rhan gyntaf. Bydd yn atodi y sgwrs a draddododd yn y Cinio Blynyddol diwethaf gan ddangos rhai o'r eitemau a ddisgrifiodd. Wedyn bydd Mrs Frances Llewelyn yn arwain ymweliad a safle henafol Cytiau Ty Mawr. Eleni yr ydym yn dathlu dau gan mlwyddiant geni W O Stanley, Penrhos, a fu'n gyfrifol am y cloddio aroesol yma yng nghanol y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. Fe fu cloddio mwy diweddar yn yr ail ran o'r
20ed. ganrif.
Dylid gwisgo esgidiau cryfion ar gyfer y
wibdaith.
Trefnwyr: J C Davies (01407 762914) a John
Rowlands. |
|
|
Dydd Mercher, 24 Gorffennaf, 2002 - GWIBDAITH
DIWRNOD LLAWN
Canolfan
y Dechnoleg Amgen(CDA) a Tywyn
Ar ôl pigo i fyny ar hyd yr A5, a chwrdd a’r “bws bach” o ffordd yr A5025, bydd un goets yn gadael Porthaethwy ac yn galw ym Mhorthmadog am baned boreol.
Wedyn i’r CDA lle bydd amser i gael eich picnic neu prydlen yn y caffi cyn crwydro’r safle. Mae yna lawer yw weld a rhyfeddu ato – beth sydd i ddod o’r byd yn y dyfodol? Wedyn i Dywyn lle bydd ficer Sant Cadfan yn dweud hanes ei eglwys a rhai
o’r gweddillion hynafol sydd yno.
Am adref drwy Ddolgellau a Bala gyda seibiant i gael lluniaeth yng Ngwesty Waterloo. Betws y Coed, ac yn ôl ym Mhorthaethwy tua 7 o’r
gloch. Y gost fydd £26.00 y person.
NODER y bydd CYNLLUN SEDDAU mewn grym ar y goets, bydd y seddau yn cael ei rhannu fel y daw archebion i law.
Trefnwr:
G W Parry Ffôn:
01248 722697 |
|
|
Dydd Gwener - Dydd Sul, 6 - 8 Medi, 2002 - GWIBDAITH
PENWYTHNOS
Abertawe
a’r Gardd Fotaneg Cenedlaethol
Ar ôl pigo i fyny yn y safleoedd arferol ar hyd yr A5, a chyfarfod y “bws
bach” o Amlwch, bydd un goets yn gadael Coed Cyrnol, Porthaethwy am 9 o'r gloch bore dydd
Gwener. Paned boreol ym Mhorthmadog cyn aros dros dro yng Nghanolfan Crefft
Corris. Bydd amser i gael eich picnic neu prynu tamaid yn yr ystafell de a gweld beth sydd ar gael yn y
Ganolfan. Paned prynhawn yng Ngwesty Ty Glyn, Capel Aeron. Seiliedig yng Ngwesty Ramada Jarvis yn Abertawe cawn sgwrs ar ôl swper am gysylltiad y dref a Mynydd
Parys.
Bore Sadwrn awn
i ymweld â’r amgueddfeydd yn yr “Ardal Arforol” cyn cinio bach yn y gwesty a threulio’r prynhawn yn
yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Ar y ffordd adref dydd Sul byddwn yn aros am baned boreol yn
Llandrindod, cinio yn y Trallwng ac awr yng Nghastell y Waun. Seibiant a phaned yng Ngwesty Dewi
Sant, Ewloe gan fwriadu cyrraedd Porthaethwy erbyn hanner wedi chwech.
NODWCH: bydd CYNLLUN SEDDAU mewn grym ar y goets – bydd y seddau yn cael ei rhannu fel y daw archebion
i law.Cost: £130.00 i aelodau Ymddiriedolaeth Genedlaethol (YG) £134.50 i
eraill.
Trefnwr: G W Parry
Ffôn - 01248 722697
|
|
|