Who We Are
Pwy Ydym Ni
Membership
Aelodaeth
Constitution
Cyfansoddiad
Excursions
Gwibdeithiau
Meetings
Cyfarfodydd
Transactions
Trafodion
Publications
Cyhoeddiadau
Committees
Pwyllgorau

Day School
Ysgol Undydd

Resources
Adnoddau


Rhaglen Gwibdeithiau 2001 Aelodau yn unig

Dydd Iau, 17 Mai, 2001 - Gwibdaith Hanner Diwrnod
"Hafoty" ger Llansadwrn
 
Dileuwyd y Gwibdaeth oherwydd cyfyngiadau yn sgil Clwy'r Traed a'r Genau
Dydd Sadwrn, 9 Mehefin, 2001 -Gwibdaith Diwrnod Llawn
Coedwig Gwydyr - Mwyngloddiau, Capel a Castell
Dileuwyd y Gwibdaeth oherwydd cyfyngiadau yn sgil Clwy'r Traed a'r Genau
 
Dydd Sadwrn, 7 Gorfennaf, 2001 - GWIBDAITH HANNER DIWRNOD
Tair Eglwys diddorol yn Amlwch
Bydd y cyfarfod cyntaf yn Eglwys Sant Eleth, Sgwâr Dinorben am 2 o’r gloch. Ar ôl gwaith trin mae'r eglwys hon wedi ei haddasu ar gyfer addoliad cyfoes. Bydd Mrs Frances Llewelyn yn rhoi sgwrs fer ar hanes y safle ac am ddirgelwch y pennau cerfiedig canol oesol a ddarganfuwyd yn y twr yn ystod y gwaith trin.

Am 3 o'r gloch yng Nghapel y Methodistiaid Seisnig, Stryd Wesley bydd Mr John Rowlands, awdur y llyfr Copper Mountain, yn sôn am y cysylltiad a'r gweithwyr o Gernyw ac am James Treweek, goruchwyliwr y mwynglawddio, ar Mynydd Parys.

Am 4 o'r gloch ymwelwn a Eglwys yr Arglwyddes Mair, Seren y Môr ar Ffordd Porth llechog. Ceir sgwrs fer ar bensaernïaeth unigryw a hanes yr eglwys gyfoes hon.

Mae yna dri maes parcio "talu ac arddangos" o fewn rhyw 150 llath o Eglwys St Eleth a Capel y Methodistiaid Saesneg. Mae’n llai na hanner milltir o’r fan hynny i'r Eglwys Babyddol. Os yw'n bosib i chwi a wnewch gerdded yno er mwyn gadael yr ychydig safleoedd parcio i'r henoed a’r anabl.

Trefnwr: J O Hughes (( 01407 830186)

Dydd Mercher, 25 Gorffennaf, 2001 - GWIBDAITH DIWRNOD LLAWN
Ceiau Salford a Canolfan Lowry

Wedi pigo i fyny yn y safleoedd arferol ar hyd yr A5 a chyfarfod bws bach o Amlwch bydd un bws yn gadael Porthaethwy am 9.00 o'r gloch i drafeilio ar hyd yr A55 ac amryw draffordd i safle hen borthladd Manceinion sydd wedi ei adnewyddu fel "Salford Quays". Dylai fod y gwaith adnewyddu wedi ei gwblhau erbyn ein ymweliad. Arhoswn yng Ngwesty Parc Dewi Sant yn Ewloe am baned ar y daith.

Bydd y bws yn ein gadael tu allan i Canolfan Lowry. Mae yno gaffi yn gwerthu byrbrydiau neu bydd siawns i gymryd eich picnic y tu allan. Wedyn bydd amser i grwydro drwy yr orielau neu fynd am dro i weld yr adnewyddiadau. (Mae'n bosib trefnu awr o daith tywys i 15 person i weld y cymleth theatr am gost ychwanegol). Am 3 o'r gloch byddwn yn ymuno a'r Princess Katherine am awr o fordaith ar hyd y gamlas cyn cychwyn tuag adref gan alw yn Gwesty Kinmel Manor am bryd o fwyd. Dylem gyrraedd yn ôl ym Mhorthaethwy erbyn 8 o'r gloch. Côst £28.00 y person.

Trefnwr: Gareth Parry ((01248 722697)

Dydd Gwener - Dydd Sul, 7 -  9 Medi, 2001 -  GWIBDAITH PENWYTHNOS
St Albans a Verulamium
Ar ôl pigo i fyny yn y safleoedd arferol ar hyd yr A5 a chyfarfod bws bach o Amlwch bydd un bws yn gadael Coed Cyrnol, Porthaethwy am 9 o’r gloch bore Dydd Gwener. Paned boreol yn Gwesty Dewi Sant, Ewloe cyn aros dros dro yn Attingham Park (YG) ger Amwythig. Bydd amser i gael eich picnic neu prynu tamaid yn yr ystafell te.

Seiliedig yng Ngwesty Noke Thistle yn St Albans cawn sgwrs ar ôl swper am hanes y dref, taith dan arweiniad drwy'r Gadeirlan hefo cinio yn y ffreutur ac ymweliad a Amgueddfa Verulamium i gyfarfod "milwr Rhufeinig".

Ar y ffordd adref dydd Sul byddwn yn aros yn Baddesley Clinton (YG) am ginio ag i weld y Ty a'r gerddi a galw eto yn Gwesty Dewi Sant am de prynhawn. Côst: £145.00 i aelodau Ymddiriedolaeth Genedlaethol (YG) £154.00 i eraill

Trefnwyr: Dr a Mrs I W Griffith. (( 01248 713134)