Who We Are
Pwy Ydym Ni
Membership
Aelodaeth
Constitution
Cyfansoddiad
Excursions
Gwibdeithiau
Meetings
Cyfarfodydd
Transactions
Trafodion
Publications
Cyhoeddiadau
Committees
Pwyllgorau

Day School
Ysgol Undydd

Resources
Adnoddau


Rhaglen Gwibdeithiau 2000 Aelodau yn unig

Dydd Sadwrn, 13 Mai, 2000 - GWIBDAITH HANNER DIWRNOD
Garreglwyd a Porth Swtan

Cyfarfod am 2 o'r gloch yn Garreglwyd. Trowch oddi ar yr A5025 i mewn i bentref Llanfaethlu, ac fe welwch arwyddion A.A.S. yn eich cyfeirio am hanner milltir i'r gorllewin cyn troi i'r dde ar lôn breifat Garreglwyd a pharcio nepell o'r ty. Cawn gyfle i weld o gwmpas y ty yng nghwmni Mr. Tom Carpenter, a cherdded yn y gerddi. Wedyn cawn sgwrs gan Mr. S. Rhydwen-Jones ar Borth Swtan, a chyfarwyddyd i deithio ymlaen yn ein cerbydau i Borth Swtan, lle geir cyfle i rannu eto mewn grwpiau llai i ymweld a'r Borth a/neu prynu lluniaeth yn lleol. Codir ychydig fel pris mynediad yn Garreglwyd.

Trefnwyr: Gwynne Morris Jones (( 01407 832861) and J.O. Hughes (( 01407 830186)

Dydd Sadwrn, 10 Mehefin, 2000 - GWIBDAITH DIWRNOD LLAWN
Pen y Gaer a Llanaelhaearn

Mae Frances Llewellyn wedi cytuno'n garedig iawn i'n harwain ar ein taith gerdded eleni i'r ucheldir sy'n gorwedd i'r dwyrain o Lanaelhaearn. Unwaith yn unig fydd rhaid dringo - ar ran gyntaf y daith i Ben y Gaer, (428455 ar y map) cyn yr egwyl ginio - a chawn ein cludo i'r man cychwyn mewn bws, i Fferm Tyddyn Mawr (430447).

Y pellder i gerdded fydd rhwng 5 a 6 milltir, gan orffen yn Llanaelhaearn lle cawn weld yr eglwys. Ar y ffordd fe welwn enghreifftiau o gylchoedd cytiau, systemau amaethu, ponciau clustog a hefyd olion diweddarach o hen felin ddwr. Os bydd y tywydd yn ffafriol, cawn weld olygfeydd arbennig i gyfeiriad Llyn a Bae Ceredigion. Rhaid gwisgo 'sgidiau cryfion, ac ymwisgo yn ôl tywydd y diwrnod. Cofiwch ddod a bwyd ysgafn ar gyfer yr egwyl ginio.

Yn y bore fe dodir aelodau ar y bws yn llangefni (8.30), Llanfairpwll ger Swyddfa'r Post (8.50), Coed Cyrnol, Porthaethwy (9.00) a Chaernarfon (9.15) a gobeithir cyrraedd yn ôl i Langefni erbyn 8.00 yn yr hwyr. Trefnir pryd o fwyd dau gwrs yng Ngwesty'r 'Coach', Clynnog Fawr am chwech o'r gloch yr hwyr, a'r cost am y diwrnod fydd £15 y pen. Cyfyngir y nifer fel arfer i'r 50 cais cyntaf.

Trefnyddion: Frances Llewellyn and Gwynne Morris Jones ((Tel 01407 832861)

Dydd Mercher, 5 Gorfennaf, 2000 - GWIBDAITH HANNER DIWRNOD
Niwbwrch - Sefydliad Pritchard-Jones a Safle Cloddiad Rhosyr

Cawn sgwrs gan y Cynghorydd Gwyn Jones ar Pritchard Jones a'r Neuadd, a Llyfrgell y Sefydliad. Yn ail ran y prynhawn, danghosir fideo a cheir sgwrs gan David Longley ar y gwaith diweddar yn Rhosyr, ac yna ymweliad â'r safle.

Cyfarfod yn Sefydliad Pritchard-Jones (425657 ar y map) am 2 o'r gloch. Ar groesffordd Niwbwrch, ar yr A4080 ger Swyddfa'r Post, trowch i'r dde os yn teithio o gyfeiriad Brynsiencyn, neu i'r chwith os yn dod o gyfeiriad Malltraeth, a mae'r adeilad can medr ar y chwith (parcio yn y lon).

Trefnwyr: John Harding (( 01407 840801) and Jeff Lewis (( 01248 430650)

Dydd Sadwrn, 22 Gorffennaf, 2000 - GWIBDAITH DIWRNOD LLAWN
Porthmadog - Penrhyndeudraeth - Criccieth

Un bws, gyda cyswllt o Amlwch i Borthaethwy. Ymlaen oddi yno yn y bws mawr i Ganolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog i gyfarfod â Mr. Paul Williams, Warden safle'r Gwaith Powdwr ym Mhenryndeudraeth, ac i glywed am y gwaith o droi'r safle yn warchodfan natur. Yna, cawn ginio ysgafn yn y Ganolfan cyn teithio i'r Penrhyn i weld y safle gyda Mr. Williams. Wedi hyn awn yn y bws i Griccieth lle cawn weld yr arddangosfa ragorol yn y Castell, neu gerdded o gwmpas y dref a glannau'r môr yn hamddenol. Cinio gyda'r nos: Gwesty'r George IV, Criccieth.

Cost £22.50 yn cynnwys pris y bws, y sgyrsiau, ymweld a safle'r Gwaith Powdwr, a'r ddau pryd bwyd. Yr aelodau i dalu mynediad i'r Castell.

Trefnwyr: Margaret Hughes a J.M. Lewis ((01248 430650)

Dydd Iau - Dydd Sul, 14 -  17 Medi, 2000 -  GWIBDAITH PEDWAR DIWRNOD
Bolton, Sir Gaerhirfryn

Anfonwch yn gynnar i sicrhau lle ar y daith hon i astudio un o drefi gweithfaol Prydain, enwog yn oes Victoria am wau a diwydiannau trymion. Dau fws yn codi yn y mannau arferol ym Môn, ond un yn unig (48 sedd) yn teithio ymlaen o Borthaethwy am 9 o'r gloch bore Iau. Arhosir mewn prif westy 'The Last Drop Village' ar y cyrrau yn edrych dros y dref o'r gogledd.

Rhaglen lawn yn cynnwys ymweliadau â gweddillion o'r Canol Oesoedd, y Rhyfel Cartref, Samuel Crompton a pheiriannau gwau cynnar yn Amgueddfa Helmshore. Ceir dau gyfarfod gyda'r nos yn y gwesty - sgwrs ar 'William Lever', a fideo dogfennol ar Bolton. Efallai y trefnir ymweliad (dewisol) â theatr un noswaith. Bydd amser hefyd i ymweld â sopau canol y dref a safleoedd hanesyddol.

Cynhwysir y prydau bwyd i gyd yn y gost (£196 y pen) ar wahân i'r cinio canol dydd Gwener. Ni fydd atodiad pris am ystafelloedd sengl. Dylwelwn i Borthaethwy tua 5.15 nos Sul, a danfonir manylion llawn ar ôl debyn ffurflenni cais.

Trefnydd: Bob a Mary Mason, Bodnolwyn Wen, Llantrisant, Ynys Môn LL65 4TW (( 01407 730604)