Who We Are
Pwy Ydym Ni
Membership
Aelodaeth
Constitution
Cyfansoddiad
Excursions
Gwibdeithiau
Meetings
Cyfarfodydd
Transactions
Trafodion
Publications
Cyhoeddiadau
Committees
Pwyllgorau

Day School
Ysgol Undydd

Resources
Adnoddau


Dehongli Tirwedd Ynys Môn

Ysgol Undydd: 
9 am - 5.30 pm, Dydd Sadwrn, Chwefror 9, 2002 
Yr Hen Goleg, Prifysgol Cymru Bangor

Y thema fydd Dehongli Tirwedd Ynys Môn, pwnc a fydd yn apelio at bawb sydd â diddordeb yn hanes Môn ac sydd yn dymuno deall ei thirwedd. Amcanion y dydd yw:

  • I drosglwyddo gwybodaeth ac i ennyn eich diddordeb mewn gwahanol agweddau o hanes tirwedd Ynys Môn drwy gyfrwng darlithoedd.

  • I ddarparu gwybodaeth ymarferol a chyngor drwy weithdai, a fydd yn eich paratoi i ddechrau ymchwilio i ardaloedd penodol o Fôn mewn dyfnder, eich cartref, eich pentref, eich plwyf neu efallai rhan o’r arfordir.

Canlyniad cyffrous iawn i’r Ysgol Undydd fydd i aelodau o GHM gael eu hysgogi i fod yn weithredol yn y dasg o ddehongli tirwedd Môn.

Rhaglen 
9.00  - 9.15 Cofrestru. 
9.15  - 9.30 Cyflwyniad i themâu’r diwrnod a chadeirydd sesiwn y bore:
Frances Lynch
9.30  - 10.15 Amaethyddiaeth: Andrew Davidson 
10.15  - 11.00 Aneddfeydd:  David Longley
11.00  - 11.30 Coffi
11.30  - 12.15 Diwydiant a thrafnidiaeth mewndirol:  David Gwyn
12.15  - 1.00 Trafnidiaeth forwrol - yr arfordir a’r porthladdoedd: 
Owain T. P. Roberts
1.00  - 2.00 Cinio (Darperir gan Blas ar Fwyd, Llanrwst)
2.00  - 4.00 Tri o Weithdai:

  1. Archifau : Ym Mhrifysgol Cymru Bangor ac ym Môn (Llangefni):
    Elen Wyn Hughes ac Anne Venables.
  2. Lluniau o’r awyr a Chofnodion Safleoedd a Henebion: 
    Mary Aris a Kate Geary.
  3. Technegau tirfesur a chofnodi: 
    Danny Dutton a Andrew Davidson.
4.00  - 4.30 Te
4.30  - 5.15  Archaeoleg tirwedd: y cyd-destun ehangach: 
David Gwyn.
5.15  - 5.30 Crynhoad: Frances Lynch
Mi fydd  yna arddangosiad o waith perthnasol gan  Grwp Archeolegol Talwrn.
Cyfyngir niferoedd i 70 a chynghorir archebu yn gynnar. 
Cost: £12.50, gan gynnwys cinio.