|
Rheol 1.
|
Teitl y Cymdeithas fydd
'Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr- Môn', a
elwir o hyn ymlaen yn 'y Gymdeithas', a'i hamcanion fydd
cynnal astudiaethau ymarferol o archaeoleg gwyddorau
naturiol, celf, llenyddiaeth, hanes a phynciau tebyg sydd yn
gysylltiedig â Môn, ynghyd â gwarchod
dogfennau hanesyddol, henebion, adar a phlanhigion prin, a
nodweddion o ddiddordeb daearegol neu wyddonol arall ar yr
ynys, ac i feithrin diddordeb a gwerthfawrogiad cyhoeddus
o'r pynciau hyn. Mae aelodaeth ar agor i bawb sydd yn
cefnogi nodau ac amcanion y Gymdeithas.
|
|
Rheol 2.
|
Y Swyddogion fydd y Llywydd, Is-Lywyddion,
Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd, Golygydd,
ac unrhyw swyddogion eraill a benodir,,an y Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol. Bydd cyn Lywyddion yn cael eu
penodi'n Is-Lywyddion cyn belled ag y byddant yn parhautn
aelodau o'r Gymdeithas.
|
|
Rheol 3.
|
Bydd Pwyllgor a fydd
yn cynnwys swyddogion y Gymdeithas ynghyd â naw aelod
ohoni, yn rheoli gwaith y Gymdeithas. Bydd angen pum aelod i
ffurfio cworwm
|
|
Rheol 4.
|
Byydd tâl aelodaeth y
Gymdeithas yn swm blynyddol a fydd yn cael ei bennu gan y
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol. Bydd y tâl
yn daladwy ymlaen llaw ar 1 Ebrill bob
blwyddyn. Telir taliadau aelodaeth i'r Trysorydd.
Gellir ethol personau sydd wedi cyflawni gwasanaeth arbennig
i'r Gymdeithas fel Aelodau Anrhydeddus o dderbyn enwebiad
:gan y Pwyllgor. Yn achos aelodau o dan 18 mlwydd oed, a myfyrwyr mewn ysgolion a
cholegau, bydd y tâl aelodaeth yn swm is i'w bennu gan
y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
|
|
Rheol 5.
|
Bydd hawl gan aelodau sydd
wedi talu eu tâl blynyddol i ddal swydd, i bleidleisio
yn y Cyfarfodydd Cyffredinol ac i dderbyn copi argraffedig o
'Drafodion' y Gymdeithas a gyhoeddir yn ystod y flwyddyn, yn
rhad ac am ddim
|
|
Rheol 6.
|
Bydd gwybodaeth am deithiau
a chyfarfodydd y Gymdeithas yn cael ei rhoi i aelodau
Cymdeithasau tebyg sydd hwythau yn cynnig manteision tebyg i
Aelodau Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr
Môn.
|
|
Rheol
7.
|
Bydd angen i unrhyw aelod
sy'n dymuno ymddiswyddo o'r Gymdeithas roi r rhybudd
ysgrifenedig i'r Ysgrifennydd cyn diwedd y flwyddyn
ariannol. Yn absenoldeb rhybudd ysgrifenedig o'r fath,
bydd angen i'r aelod dalu tâl aelodaeth y flwyddyn
gyfredol onid ydyw eisoes wedi ei dalu. Bydd enwau'r aelodau
sydd chwe mis yn hwyr yn talu eu tâl aelodaeth, yn
dilyn cais gan y Trysorydd am y taliad, yn cael eu dileu o
restr enwau'r Aelodau, ond yr aelodau beius hyn fydd yn
gyfrifol am daliadau hwyr o'r fath.
|
|
Rheol 8.
|
Bydd gan y Pwyllgor yr hawl
i wahardd unrhyw aelod os ydyw o'r farn bod vmddygiad yr
aelod dan sylw yn annerbyniol.
|
|
Rheol 9.
|
Bydd y Pwyllgor yn trefnu o
leiaf ddau Gyfarfod Cyffredinol o'r Gymdeithas bob blwyddyn,
pan fydd papurau yn Gymraeg neu yn Saesneg yn cael eu
darllen a'u trafod. Bydd gweithgareddau o ddiddordeb i
Aelodau'r Gymdeithas yn cael eu cynnal ar adegau y
penderfyna'r Pwyllgor arnynt, ond gall y Cadeirydd alw
Cyfarfod Arbennig o Bwyllgor ar unrhyw adeg y teimla fod
hynny'n briodol.
|
|
Rheol
10.
|
Bydd Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol y Gymdeithas yn cael ei gynnal ym mis Mai a bydd
angen hanner can aelod yn bresennol er mwyn ffiurfio
cworwm. Yn y cyfarfod hwn, bydd Swyddogion a Phwyllgor
y Gymdeithas yn cael eu hethol, ynghyd ag archwiliwr ar
gyfer y flwyddyn ddilynol. Os bydd nifer yr enwebiadau ar
gyfer unrhyw swydd yn fwy na nifer y lleoedd gwag sydd ar
gael, bydd aelodau vn cael eu hethol trwy bleidlais. Bydd
Adroddiadau'r swyddog a'i ddatganiad ariannol, wedi ei
archwilio, am y cyfnod hyd ddiwedd mis Mawrth, yn cael eu
cyflwyno a'u darllen. Bydd angen i'r Ysgrifennydd roi
rhybudd o ddeg diwrnod clir ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol.
|
|
Rheol 11.
|
Gall y Pwyllgor lenwi unrhyw
seddi gweigion a gyfyd cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
dilynol.
|
|
Rheol
12.
|
Bydd y Trysorydd yn gwneud
taliadau fel a ganiateir o bryd i'w gilydd gan y Pwyllgor a
bydd angen iddo gyflwyno Datganiad o Gyfrifon hyd at ddiwedd
y mis Mawrth blaenorol i'r Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol. Bydd pob siec yn cael ei harwyddo gan y
Trysorydd.
|
|
Rheol 13.
|
Bydd angen hysbysu'r
Ysgrifennydd am unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i'r Rheohau
uchod o leiaf un diwrnod ar hugain clir cyn y Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol, ac ni fyddant yn cael eu mabwysiadu
oni fydd o leiaf deuparth yr aelodau sy'n bresennol o'u
plaid. Ni chaniateir gwneud unrhyw newidiadau i'r Rheolau
hyn a fyddai'n achosi i'r Gymdeithas beidio â bod yn
elusen gyfreithiol.
|
|
Rheol l4.
|
Pe byddai'r Gymdeithas yn
cael ei dirwyn i ben, bydd unrhyw asedion a fydd yn weddill yn sgil diddymu'r Gymdeithas,
ar ôl talu dyledion ac ymrwymiadau, yn cael eu
trosyglwyddo i sefydliad neu sefydliadau elusennol sydd ag
amcanion tebyg i rai'r Gymdeithas.
|